·                   Has the requirement for domestic and UEFA licences contributed in any way to improving the infrastructure of WPL clubs, and if so, how?/ A yw’r gofyniad i gael trwydded ddomestig a thrwydded UEFA wedi cyfrannu mewn unrhyw ffordd at wella seilwaith clybiau Uwch Gynghrair Cymru ac os felly, sut?

Yn bendant mae trwyddedu (Domestig ac UEFA) wedi bod o fudd cadarnahol i’r clybiau tu fewn a thu allan i’r Gynghrair Genedlaethol.

 

Yn gyntaf maent wedi gorfodi pob clwb i osod sylafen gadarn i’w tanadeiledd, o’r Academi hyd at y tîm cyntaf. Mae’r criteria yn glir ac yn bendant gyda phob adran yn berthnasol i bob clwb. Mae’n gosod sail i wneud penderfyniadau.

 

Hoffwn ddiolch i’r tîm trwyddedu tu fewn i’r GBD am eu cefnoageth a’uparodrwydd i gynorthrwyo wrth fynd ati yn flynyddol i gyrchu at y nod.

 

Y gwerth mwyaf, yn fy marn i, yw sicrhau mai y clybiau uchelgeisiol sydd yn medru elwa o hyn. Wrth i’r trwydded gael ei ddefnyddio i dynnu’r gynghrair lawr i 12 o dimau, dim ond y rhai gyda’r weledigaeth yn y gorffennol oedd yn medru ateb y gofynion. Felly y clybiau sydd wedi goroesi sydd â’r cyfleusterau a’r tan adeiledd gorau tu fewn i bêl-droed yng Nghymru.

 

Mae’n gosod sail i glybiau tu allau i’r Uwch Gynghrair i’w anelu amdano. Efallai bod hi nawr yn amser i edrych ar y clybiau yma ac i roi mwy o gyfle iddynt gyrraedd eu nod.

 

Yn gyntaf dylid cael trafodaeth unwaith eto ar y nifer o glybiau sydd yn yr Uwch Gynghrair. Nodwyd yn barod y byddai Clwb Pêl Droed Caerfyrddin yn ffafrïo un clwb ar bymtheg a bod hi’n amser i ail edrych ar hyn.

 

Yn ail mae yna glybiau sydd yn derbyn y drwydded domestig yn cael ei atal rhag cael mynediad i’r Uwch Gynghrair oherwydd mai un clwb o’r De ac un o’r  Gogledd sydd yn medru cael dyrchafiad. Teimlwn bod clybiau’r Gogledd yn fwy uchelgeisol na’r rhai yn y De.

 

·                   Do you have any views on the FAW Strategic Plan, published in January 2012, and the way in which it relates to the WPL?/ A oes gennych farn ynghylch Cynllun Strategol Cymdeithas Bêl-droed Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2012, a sut y mae’n berthnasol i Uwch Gynghrair Cymru?

Eto mae angen mwy o drafodaeth ar gynnwys y Cynllun Strategol. Credwn fod angen fwy o fewnbwn gan aelodau’r Uwch Gynghrair er mwyn bod yna weledigaeth gytûn ar gyfer y dyfodol. Nid yw un cyfarfod yn ddigon i greu'r fath sefyllfa.

Credwn yn gryf mewn datblygu ond rhaid cael cytundeb cyffredinol ar y ffordd ymlaen.

·                   You say that the Welsh Government should ‘do its bit in supporting our Premier League’. What would be the most effective form of support it could provide and what would you wish to see the Government doing in this respect?/ Yr ydych yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru wneud ei rhan drwy gefnogi ein Huwch Gynghrair. Beth fyddai’r gefnogaeth fwyaf effeithiol y gallai ei chynnig a beth yr hoffech weld y Llywodraeth yn ei wneud yn hyn o beth?

Heblaw am arian uniongyrchol rhaid edrych ar gefnogaeth ymarferol i glybiau. Gan mai gwirfoddolwyr sydd yn rhedeg y rhan fwyaf o glybiau'r Uwch Gynghrair nid oes arbenigrwydd, yn aml, wrth chwilio am ffynonellau ariannol ychwanegol.

Roedd ymgais y GBD gyda Grow Your Club yn ganmoladwy ond nid yn ateb y broblem gan nad oedd yn ddigon pendant ei awgrymiadau.

Mae angen rhestr syml o ffynonellau ariannol ar glybiau gyda chymorth ychwanegol ar sut mae llenwi’r ffurflenni cais er mwyn cyrraedd yn ffynonellau yma.

Rydym yn gobeithio mai'r cam cyntaf yw’r cyfarfodydd yma ar hyd y llwybr i sicrhau cymorth. Eto mae angen trafodaeth er mwyn llunio cynllun 5 mlynedd ar gyfer y gynghrair, sut mae ei hymestyn, ei phoblogeiddio a’i gwneud yn hyfyw. Ni all y clybiau wneud hyn yn anffodus heb gymorth.

Mae angen cyfarwyddo Cynghorau Sir i geisio cefnogi eu clybiau yn ymarferol. Rhaid canmol Cyngor Sir Gar sydd yn ceisio gwneud hynny.

Pa fewnbwn oedd gan Lywodraeth Cymru i’r Cynllun Strategol? Oes angen presenoldeb gwleidydd ar CBD Cymru  neu ar banel reoli'r Uwch Gynghrair? Cwestiynau i chi yw'r rhain a diddorol bydd darllen neu glywed yr ymateb

·                   Can you expand on your comments that the Welsh Government should support Wales’s independent position within FIFA? What specific actions should it be taking in this regard and what role does the WPL have to play in safeguarding this status?/ A allwch ymhelaethu ar eich sylwadau y dylai Llywodraeth Cymru gefnogi safle annibynnol Cymru yn FIFA? Pa gamau penodol y dylai fod yn eu cymryd yn hyn o beth a beth yw swyddogaeth Uwch Gynghrair Cymru o ran diogelu’r statws hwn?

Mae’r Gemau Olympaidd wedi dod a hyn i sylw’r cyfryngau unwaith eto. Yn sicr mae’n rhaid amddiffyn annibyniaeth Cymru tu fewn i rengoedd FIFA. Nid yw sylwadau cynrychiolydd FA Lloegr wedi bod o gymorth i Gymru ac mae angen adfer y sefyllfa.

Eto rhaid edrych ar y bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a GBD Cymru, oes un yn bodoli. Rhaid sicrhau tryloywder yn y berthynas hon.

Mae Cymru (a Chaerdydd yn benodol) yn elwa o gael tîm cenedlaethol. Mae enwau fel Aaron Ramsey a Gareth Bale yn adnabyddus ar draws y byd. Rhaid ei defnyddio i ddenu cefnogaeth i’r tîm cenedlaethol ond hefyd i ddenu pobl i’r brifddinas.

Mae anrhydedd enfawr i Glwb Pêl Droed Caerfyrddin cael llwyfannu tair gem ar Barc Waun Dew yn Awst 2013 fel rhan o Bencampwriaeth UEFA i ferched dan 19 oed. Rydym yn barod yn cydweithio gyda'r bwrdd twristiaeth leol a’r Cyngor Sir i hysbysebu’r ardal ar draws Ewrop.

Yn sicr mae Caerdydd yn mynd i elwa wrth i gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014 nesau.Rheswm economaidd i amddiffyn annibyniaeth ein tîm cenedlaethol.

Mae gan yr Uwch Gynghrair rôl allweddol tu fewn i hyn. Wrth i ni gystadlu yn Ewrop y nod yw ceisio gwella ein statws tu fewn i UEFA. Wrth i’r tîm cenedlaethol wella a gobeithio bydd ein canlyniadau yn Ewrop bydd ein ranc tu fewn i UEFA yn codi gan sicrhau lle mwy ffafriol i glybiau a thimau cenedlaethol Cymru.

·                   What are your views on the work the FAW and WPL is undertaking with respect to tackling racism and homophobia in football and in reaching out to more diverse footballing communities (such as women, BME people and LGB people)?/ Beth yw eich barn am y gwaith y mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac Uwch Gynghrair Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â hiliaeth a homoffobia yn y byd pêl-droed ac i gyrraedd cymunedau pêl-droed mwy amrywiol (megis menywod, pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl lesbiaid, hoyw a deurywiol)?

Mae Clwb Pêl Droed Caerfyrddin wedi ymgorffori ymgais y GBD i fynd i afael a hiliaeth a homoffobia yn y byd pêl droed. Fel clwb rydym yn croesawu criw Dangoswch y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn flynyddol i Barc Waun Dew. Eleni roedd dro 60 ddisgyblion ysgolion cynradd y cylch yn cael eu sylw wedi tynnu at broblemau cymdeithasol.

Mae’r sesiynau yn rhai bywiog llawn brwdfrydedd. Rwyf wedi gwneud awgrymiadau ar gyfer datblygu’r cynllun o ran ei strwythur.

Y fantais i ni yw bode in canolfan gymunedol yn  nawr yn cael ei chysylltu gan ysgolion nid fell le i chwarae pêl droed yn unig ond fel man i fynd i ehangu gwybodaeth ac i drafod pynciau llosg.

Mae dysgu drwy bêl droed yn effeithiol. Ceir cymaint o sylw iddo yn y cyfryngau ac mae’n ffordd effeithiol o drosglwyddo negeseuon cadarnhaol. Maes i’w ddatblygu’n ymhellach efallai.